Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2014

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(181)

 

<AI1>

1    Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

 

</AI1>

<AI2>

2    Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 14.16

 

 

</AI2>

<AI3>

Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

 

Dechreuodd yr eitem am 14.28

 

NDM5440 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

 

(i) Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig);

 

(ii) Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig); a

 

(iii) William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o, ac yn Gadeirydd i, y Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI3>

<AI4>

3    Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: PISA 2012 - Y wybodaeth ddiweddaraf

 

Dechreuodd yr eitem am 14.28

 

 

</AI4>

<AI5>

4    Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o Ddarparu Cymorth gyda'r Dreth Gyngor

 

Dechreuodd yr eitem am 15.03

 

 

</AI5>

<AI6>

5    Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Dileu TB mewn Gwartheg

 

Dechreuodd yr eitem am 15.28

 

 

</AI6>

<AI7>

6    Dadl: Setliad yr Heddlu 2014-15

 

Dechreuodd yr eitem am 16.11

 

NDM5435 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI7>

<AI8>

7    Dadl: Dyfodol ein gorffennol - cyfeiriadau newydd ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru

 

Dechreuodd yr eitem am 16.34

 

NDM5434 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW.

 

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng Nghymru.

 

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.

 

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad statudol bod awdurdodau lleol yn llunio rhestr leol o adeiladau sy’n cael eu hystyried yn asedau hanesyddol yn eu hardaloedd drwy unrhyw Fil Treftadaeth yn y dyfodol, ac i ddarparu canllawiau a pholisïau enghreifftiol ar gyfer eu cynlluniau datblygu lleol i ategu hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu categori ar gyfer adeiladau rhestredig sy’n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5434 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".

 

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng Nghymru.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 

</AI8>

<AI9>

8    Dadl: Cynnig i gytuno ar Femorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Dechreuodd yr eitem am 17.19

 

NDM5436 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Memorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Ionawr 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

</AI9>

<AI10>

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.39

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:40

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>